Cysylltiadau Cyflym i Ddatblygwyr
Gwybod am beth r’ych chi’n chwilio? Ffeindiwch y ffurflen isod.
Ceisiadau dŵr
Cais am Gysylltiad Dŵr Newydd
Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd a disodli hen gysylltiadau
Cysylltiadau dŵr newydd – diamedr mawr
Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd â diamedr mawr.
Hunan-osod
Hunan-osod yw lle'r ydych chi'n dewis i gontractwr hunan-osod achrededig osod eich prif bibell ddŵr yn lle ni
Caffael prif bibell ddŵr
Mae caffael yn golygu taw Dŵr Cymru sy'n dylunio'r brif bibell ac yn ei gosod
Dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr
Os ydych yn bwriadu dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr neu gyfarpar ar dir y mae gennych fuddiant ynddo neu eich bod yn berchen arno, ni yw’r tîm i chi
Ceisiadau gwastraff
Cyswllt Carthffos Newydd (CCN)
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae'n debyg eich bod chi eisiau cysylltu ag un o'n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn fynd â'ch dŵr wyneb a’ch dŵr gwastraff oddi yno i'w drin, ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd
Mabwysiadu Carthffos Arfaethedig
Os ydych yn gwneud cais am gysylltiad carthffos newydd a bod y garthffos y tu allan i ffin eich eiddo, neu ei bod yn gwasanaethu mwy nag un adeilad, yna bydd angen i chi ofyn i ni ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda chi yn gyntaf, cyn i chi adeilad
Gwyro Carthffos Gyhoeddus
Os ydych chi'n dymuno gwella neu ddatblygu tir yr ydych chi'n berchen arno, ac y byddai'r garthffos gyhoeddus yn debygol o atal neu rwystro eich datblygiad, yna mae gennych yr hawl i ofyn am ei newid neu ei thynnu
Archebion am garthffosydd
Weithiau, nid oes gan eich cartref neu eich safle ffordd o ddraenio i garthffos gyhoeddus oherwydd bod tir sy'n eiddo i drydydd parti rhwng y safle a'r garthffos. Os na fydd y trydydd parti yn rhoi mynediad i chi i'r tir, yna gallwch ofyn yn ffurfiol (archebu) am garthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol oddi wrthym ni
Ceisiadau cynllunio
Ffurflen Ymholiadau Draenio a Dŵr
Os ydych yn dymuno gwneud cais am chwiliad dŵr a draenio ar eiddo, gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’r ffurflen gais hon. Yna, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi
Adeiladu Dros/Ger - Hunan Ardystio
Proses fyrrach lle gallwch 'hunanardystio' cyhyd â'ch bod chi'n bodloni meini prawf penodol o ran sut y byddwch yn amddiffyn ein carthffos wrth gyflawni’ch Gwaith
Cais i Adeiladu dros Garthffos
Proses fanylach, sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith mwy cymhleth neu risg uwch, sy'n cynnwys asesiad technegol o'ch cynigion gan ein tîm pwrpasol
Cais cyngor cyn cynllunio
Rhowch wybod inni am eich datblygiad arfaethedig
Cyflwyniad Ymgynghori ar y Rheoliadau Adeiladu
Mae'r ffurflen hon ar gyfer awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli adeiladu yn unig
Mapiau o’n pibellau dŵr a'n carthffosydd
Os ydych yn dymuno gweld a yw eich adeilad neu dir yn cynnwys y rhain, yna gofynnwch am eich map yma