Ceisiadau
A ydych chi eisoes yn gwybod beth sydd ei angen arnoch? Dyma fanc defnyddiol o'n holl ffurflenni cais fel y gallwch gael gafael yn gyflym ar y rhai sydd eu hangen arnoch:
Ceisiadau cynllunio
-
Ffurflen Ymholiadau Draenio a Dŵr
Os ydych yn dymuno gwneud cais am chwiliad dŵr a draenio ar eiddo, gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’r ffurflen gais hon. Yna, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi
-
Adeiladu Dros/Ger - Hunan Ardystio
Proses fyrrach lle gallwch 'hunanardystio' cyhyd â'ch bod chi'n bodloni meini prawf penodol o ran sut y byddwch yn amddiffyn ein carthffos wrth gyflawni’ch Gwaith
-
Cais i Adeiladu dros Garthffos
Proses fanylach, sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith mwy cymhleth neu risg uwch, sy'n cynnwys asesiad technegol o'ch cynigion gan ein tîm pwrpasol
-
Cais cyngor cyn cynllunio
Rhowch wybod inni am eich datblygiad arfaethedig
-
Cyflwyniad Ymgynghori ar y Rheoliadau Adeiladu
Mae'r ffurflen hon ar gyfer awdurdodau lleol a chwmnïau rheoli adeiladu yn unig
-
Mapiau o’n pibellau dŵr a'n carthffosydd
Os ydych yn dymuno gweld a yw eich adeilad neu dir yn cynnwys y rhain, yna gofynnwch am eich map yma
Ceisiadau dŵr
-
Cais am Gysylltiad Dŵr Newydd
Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd a disodli hen gysylltiadau
-
Cysylltiadau dŵr newydd – diamedr mawr
Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer cysylltiadau dŵr newydd â diamedr mawr.
-
Hunan-osod
Hunan-osod yw lle'r ydych chi'n dewis i gontractwr hunan-osod achrededig osod eich prif bibell ddŵr yn lle ni
-
Caffael prif bibell ddŵr
Mae caffael yn golygu taw Dŵr Cymru sy'n dylunio'r brif bibell ac yn ei gosod
-
Dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr
Os ydych yn bwriadu dargyfeirio, newid neu adael prif bibell ddŵr neu gyfarpar ar dir y mae gennych fuddiant ynddo neu eich bod yn berchen arno, ni yw’r tîm i chi
Ceisiadau gwastraff
-
Cyswllt Carthffos Newydd (CCN)
Os ydych chi'n adeiladu cartref neu ddatblygiad newydd, mae'n debyg eich bod chi eisiau cysylltu ag un o'n pibellau carthffosiaeth fel y gallwn fynd â'ch dŵr wyneb a’ch dŵr gwastraff oddi yno i'w drin, ei lanhau a'i ddychwelyd i'r amgylchedd
-
Mabwysiadu Carthffos Arfaethedig
Os ydych yn gwneud cais am gysylltiad carthffos newydd a bod y garthffos y tu allan i ffin eich eiddo, neu ei bod yn gwasanaethu mwy nag un adeilad, yna bydd angen i chi ofyn i ni ymrwymo i gytundeb mabwysiadu gyda chi yn gyntaf, cyn i chi adeilad
-
Gwyro Carthffos Gyhoeddus
Os ydych chi'n dymuno gwella neu ddatblygu tir yr ydych chi'n berchen arno, ac y byddai'r garthffos gyhoeddus yn debygol o atal neu rwystro eich datblygiad, yna mae gennych yr hawl i ofyn am ei newid neu ei thynnu
-
Archebion am garthffosydd
Weithiau, nid oes gan eich cartref neu eich safle ffordd o ddraenio i garthffos gyhoeddus oherwydd bod tir sy'n eiddo i drydydd parti rhwng y safle a'r garthffos. Os na fydd y trydydd parti yn rhoi mynediad i chi i'r tir, yna gallwch ofyn yn ffurfiol (archebu) am garthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol oddi wrthym ni
Ceisiadau
Mapiau o’n pibellau dŵr a'n carthffosydd
Adeiladu dros garthffosydd, neu’n agos atynt
Cysylltiadau dŵr newydd - diamedr mawr (dros 63mm)
Prif bibell ddŵr
Dargyfeirio neu adael prif bibell ddŵr
Mabwysiadu carthffosiaeth bresennol
Archebu carthffos gyhoeddus a/neu ddraen ochrol
New water connection
New sewer connection
Public sewer adoption
Public sewer diversion
Build over sewer self certification
Build over sewer full application
Os nad ydych yn dymuno cyflwyno eich ffurflen ar-lein, e-bostiwch hi at developer.services@dwrcymru.com neu postiwch hi i:
Dŵr Cymru Welsh Water
Blwch Post 3146
Linea
Fortran Road
Caerdydd
CF30 0EH
Os ydych yn anfon y ffurflenni atom drwy’r post, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cynnwys eich taliad yn daladwy i Dŵr Cymru Welsh Water. Gallai costau postio anghywir olygu bod eich ffurflen gais yn cael ei dychwelyd gan Swyddfa'r Post, felly dylech wirio'r pwysau a'r costau postio ymlaen llaw.